Dysgwyr Cymraeg |
Croeso mawr I ddysgwyr y Gymraeg.
Mae Dwynwen, perchennog y siop wedi bod yn diwtor Cymraeg ac yn barod iawn i helpu dysgwyr ddod o hyd i `r adnoddau iawn. Mae yma stoc dda o lyfrau cwrs , geiriaduron a hefyd nofelau arbennig ar gyfer dysgwyr. Cofiwch hefyd am CDs ac am bethau fel dyddiaduron (diaries) calendrau a chardiau Cymraeg o bob math.
Mae yma gyfle da hefyd i ymarfer eich Cymraeg. Byddwn bob amser yn barod i sgwrsio ac i helpu.
Newydd i`r siop!
.jpeg)
Dechreuwch ddysgu Cymraeg heddiw wrth wrando ar Gymraeg naturiol yn cael ei siarad. Cwrs yn cynnwys 2 grynoddisg a llyfryn; yn berffaith i bawb: o ddechreuwyr llwyr i ddysgwyr galluog.
|