Croeso i Bys a Bawd |
Croeso mawr i wefan Bys a Bawd.
Hen siop lyfrau ond yn llawn o lyfrau newydd a difyr i blant ac oedolion - llyfrau Cymraeg a llyfrau Saesneg am neu o Gymru.
RHIF FFON A FFACS : 01492 641329
E-BOST : berry@bysabawd.com |
 |
|
Y diweddaraf o gryno ddisgiau a DVDau Cymraeg a Chymreig - popeth o`r clasurol i`r roc a pop diweddara.
Dewis anhygoel o gardiau Cymraeg at bob achlysur, o gardiau "bob dydd" i ddewis helaeth o rai arbennig wedi eu gwneud â llaw.
Anrhegion ar gyfer pob achlysur a dewis da o brintiadau ffotograffau PIERINO ALGIERI
Gallwn hefyd gynnig gwasanaeth archebu ar gyfer llyfrau Saesneg cyffredinol sydd heb y cysylltiad gyda Chymru. Mae`r gwasanaeth hwn yn gyflym ac effeithiol.
Mae hon hefyd yn siop handi am holl ofynion swyddfa - yn cadw amrywiaeth mawr o "stationery" ac yn cynnig gwasanaethau llungopïo, ffacsio a lamineiddio cyflym a chyfeillgar.
Cynigiwn hefyd wasanaeth fframio lluniau crefftus a chyflym.
Mae newidiadau mawr wedi digwydd yn y siop yn y flwyddyn ddiwethaf . `Rydym wedi lledu`r siop i`r drws nesaf a symud lleoliad yr ystafell gyfarfod.
Dowch i weld y siop ar ei newydd wedd. Mae`r croeso yn dal yr un fath.
.
|