English »
   Ystafell Gyfarfod

Ystafell Gyfarfod

Mae Bys a Bawd yn cynnig ystafell gyfarfod gyfforddus a hwylus ac mae`n addas i lawer math o gyfarfod -  cwrs, cyfarfod busnes neu gyfarfod cymdeithasol. Mae wedi ei lleoli yn ganolog yn nhref hynafol Llanrwst sy`n fan cyfarfod hwylus yng Nghanol Gogledd Cymru.

Mae`r seddau a byrddau yn hyblyg i`w gosod mewn gwahanol ffyrdd ar gyfer hyd at 20 o bobl, beth bynnag yr achlysur ac mae`r ystafell yn hyfryd o olau ac agored.  Mae cyfleusterau swyddfa a thy bach nesaf at yr ystafell hon.

Mae cegin newydd wedi ei gosod ar gyfer gwneud paneidiau  neu luniaeth ysgafn. Gallwn ni drefnu cyflenwi os dymunir hynny. Mae hefyd ddewis da o leoedd bwyta yn agos iawn i Bys a Bawd.   

Mae staff Bys a Bawd yn gyfeillgar ac yn awyddus i wneud eich cyfarfod yn llwyddiant bob amser.

Telerau arferol:

£10 yr awr.

Sesiwn hir  - bore neu brynhawn - £28

                     gyda`r nos - £30

Diwrnod cyfan:  £55.

Os am fwy o wybodaeth ynglyn â argaeledd neu i drafod telerau ymhellach cysylltwch gyda ni.